Mae Prif Weinidog Llywodraeth San Steffan wedi dweud fod yr ymosodiadau gan brotestwyr yng Ngogledd Iwerddon yn “gwbl annerbyniol.”
Yn dilyn y drydedd noson o drafferth, fe dalodd David Cameron deyrnged i’r heddweision am eu dewrder wrth wynebu ymosodiadau.
Dywedodd y Prif Weinidog bod dros 80 o heddweision wedi cael eu hanafu yn ystod y protestio, ond ychwanegodd bod plismona yn fater datganoledig ac y dylid gadael i wleidyddion yng Ngogledd Iwerddon arwain ar hyn.
Roedd yr ymosodiadau wedi parhau neithiwr wrth i Brif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon gondemnio’r trais.
Roedd bomiau petrol wedi cael ei defnyddio yn Ardoyne, gyda’r heddlu yn ymateb gyda chanonau dŵr.
Mae’r protestio wedi cychwyn yn dilyn gorymdeithiau blynyddol yr Urdd Oren i gofio am fuddugoliaeth Brotestannaidd yn erbyn Catholigion ym Mrwydr Boyne yn 1690.