Mae gwyddonydd o Iran sy’n honni iddo gael ei herwgipio gan yr Unol Daleithiau ar ei ffordd adref heddiw.
Mae Shahram Amiri yn honni iddo gael ei herwgipio gan swyddogion CIA tra roedd yn Saudi Arabia yn 2009, ac mae awdurdodau Iran wedi cefnogi’r honiad.
Ond mae’r Unol Daleithiau yn gwadu hyn, ac mae adroddiadau yn honni ei fod wedi mynd o’i wirfodd, er mwyn rhoi gwybodaeth i’r Americanwyr am raglen datblygu ynni niwclear Iran.
Roedd yn arfer gweithio ym Mhrifysgol Malek Ashtar yn Tehran, sydd â chysylltiadau agos â Gwarchodwyr Diwygiad Iran.
Yn ôl yr honiadau, y rheswm ei fod yn gadael nawr yw fod ei deulu wedi cael eu bygwth.
Roedd wedi mynd i lysgenhadaeth Pacistan yn Washington ddydd Llun, yn gofyn am gael dychwelyd gartref.
Ffilmiau ar y we
Roedd hyn ar ôl i dair ffilm ohono ymddangos ar y rhyngrwyd.
Roedd y gyntaf yn ei ddangos yn honni ei fod wedi cael ei herwgipio. Honnodd yn yr ail ei fod yn cael addysg yn yr Unol Daleithiau, ac yn y trydydd, roedd yn honni fod yr ail ffilm yn gelwydd gan yr Americanwyr.
Mae Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Hillary Clinton, wedi dweud fod Shahram Amiri wedi cyrraedd y wlad o’i wirfodd, ac ei fod yn rhydd i adael.