Mae dau drysorau Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cael eu gwobrwyo mewn seremoni yn Nhŷ’r Arglwyddi.
Bydd Casgliad Llawysgrifau Peniarth a ffilm fud goll am David Lloyd George ymhlith y deg eitem neu gasgliad o Brydain a fydd yn cael eu gwobrwyo heddiw gan Fudiad Addysgol, Gwyddonol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig (UNESCO).
Ar ôl proses hir o enwebu ac adolygu, cyhoeddwyd y ddau wrthych yma ar Gofrestr Cof Y Byd UNESCO a fydd, yn ôl Andrew Green o’r Llyfrgell, yn “amlygu’r amrywiaeth o bethau sydd i’w gweld yn y llyfrgell.”
Llawysgrifau Peniarth
Casgliad Llawysgrifau Peniarth yw’r enghraifft gynharaf o waith ysgrifenedig yn y Gymraeg, ac mae’n cynnwys Llyfr Du Caerfyrddin, Llyfr Gwyn Rhydderch a Llyfr Taliesin, yn ogystal â gweithiau gwerthfawr mewn Saesneg, Lladin, Cernyweg a Lladin.
Yn y Llyfr Du a Llyfr Taliesin ceir casgliad hynod o hen farddoniaeth Gymraeg, gyda Llyfr Taliesin yn cynnwys deuddeg o gerddi Taliesin o’r 13eg ganrif yn yr Hen Ogledd.
Casgliad o destunau rhyddiaith Cymraeg yn dyddio o tua 1350 yw’r Llyfr Gwyn, gan gynnwys y cofnod cyntaf o chwedlau’r Mabinogi, stori Branwen. Ceir hefyd hanesion Culhwch ac Olwen, Breuddwyd Macsen Wledig, Lludd a Llefelys, Peredur, Owain a Geraint ac Enid yn y llyfr. Mae’r Llyfr Du hefyd yn llawn o gyfeiriadaeth chwedlonol, ac yn eu plith mae stori Cantre’r Gwaelod a hanes y Brenin Arthur.
Ffilm ‘The Life Story of David Lloyd George’
Cafodd y ffilm ‘The Life Story of David Lloyd George’ ei chreu ym 1918 pan oedd y Cymro yn Brif Weinidog, ond ni chafodd ei rhyddhau erioed. Er hyn, caiff ei chyfri fel “darganfyddiad y ganrif” gan nifer o haneswyr, ac mae’n eitem unigryw yn hanes sinema Prydain a sinema’r byd.
Er mai actor sy’n chwarae rhan y prif gymeriad, mae’r ffilm yn cynnwys darnau byr o’r dyn ei hun, gan adrodd ei hanes drwy gydol y Rhyfel Byd Cyntaf fel Prif Weinidog Prydain.
Yn rhyfedd iawn, diflannodd y ffilm cyn cael ei dangos yn gyhoeddus, a chafodd ei darganfod gan Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru ym 1994. Mae llyfrgellwyr yn credu mai dyma’r ffilm fawr fywgraffiadol gyntaf o wleidydd cyfoes byw.
Yn ogystal â chadw cofrestri, mae’r rhaglen Cof y Byd hefyd yn ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth o dreftadaeth ddogfennol, gan dynnu sylw llywodraethau, y cyhoedd, busnesau a masnach at anghenion cadwraeth.