Mae Erlynydd y Goron a dderbyniodd miloedd o bunnoedd er mwyn atal achos llys rhag cael ei glywed wedi cael ei garcharu am bedair blynedd a hanner heddiw.

Roedd Sarfraz Ibrahim 51 oed, o Gyncoed, Caerdydd yn bennaeth ar adran achosion Gwasanaeth Erlyn y Goron yng Ngwent pan dderbyniodd lwgrwobr o £20,000.

Mae wedi cael ei garcharu gan Lys y Goron Abertawe heddiw ar ôl cyfaddef llygredd, gwyrdroi cwrs cyfiawnder ac o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.

LLUN: Sarfraz Ibrahim, Gwifren PA