Mae diweithdra yng Nghymru yn parhau i fod yn uwch na’r cyfartaledd ar draws gwledydd Prydain.

Ac mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, wedi ymateb i hyn gan ddweud mai’r ffordd i wella’r sefyllfa yw mynd ati i wella economi’r wlad.

Yn ôl y ffigyrau gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol, 9.1% oedd y raddfa ddiweithdra yng Nghymru rhwng mis Mawrth a mis Mai – cynnydd o 0.1% ar y chwarter blaenorol.

7.8% yw’r raddfa ar draws gwledydd Prydain – sy’n gwymp o 0.1% mewn diweithdra.

Ymateb Ysgrifennydd Cymru

Mae’r ffigyrau’n dangos pam mai blaenoriaeth Llywodraeth glymbleidiol Prydain yw trawsnewid yr economi o’r cyflwr truenus a adawyd gan y Llywodraeth Lafur, meddai Cheryl Gillan.

“Trwy gryfhau’r economi fe wnawn ni gynorthwyo i greu mwy o swyddi,” meddai.

“Rydyn ni wedi ymroi i barhau i wneud y cyfan fedrwn ni i gynorthwyo busnesau yng Nghymru i dyfu a datblygu ac, i helpu unigolion i ganfod gwaith drwy hyfforddiant a phrofiad gwaith.

“Rydyn ni’n benderfynol o wella’r economi, i gael pobol yn ôl i’r gwaith a chael Cymru i symud eto.”

Llun: Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru