Mae Morgannwg wedi cyhoeddi enwau’r garfan 13 dyn fydd yn wynebu Gwlad yr Haf yn Stadiwm SWALEC yng ngêm olaf ond un gystadleuaeth Ugain20.

Mae dal yn bosib i Forgannwg ennill eu lle yn rownd wyth olaf y gystadleuaeth, ond fe fydd rhaid iddyn nhw ennill eu dwy gêm olaf.

Mae’r ddau eisoes wedi wynebu ei gilydd ddiwedd mis diwethaf gyda Gwlad yr Haf yn ennill o chwe wiced gydag wyth pêl dros ben.

Fe enillodd Gwlad yr Haf yn erbyn y Dreigiau yng Nghaerdydd tymor diwethaf hefyd.
Dim ond dwy o’r chwe gem ddiwethaf mae Morgannwg wedi ennill yng nghystadleuaeth Ugain20.

Pe bai Morgannwg yn gallu sicrhau buddugoliaeth heno, fe fydd angen iddyn nhw guro Caint yng Nghaerdydd nos Wener i gael unrhyw obaith o chwarae yn rownd nesaf y gystadleuaeth.

Carfan Morgannwg

Jim Allenby, Mark Cosgrove, Jamie Dalrymple , Tom Maynard, Ben Wright, Gareth Rees, David Brown, Mark Wallace, James Harris, Dean Cosker, Robert Croft, Shaun Tait, Chris Ashling.