Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno toriadau i’r gyllideb yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Yn y senedd heddiw, dywedodd y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb na fydd yn gohirio’r toriadau tan y flwyddyn nesaf.
Roedd llywodraeth San Steffan wedi dweud y gallai Llywodraeth Cymru ddewis gohirio’r toriadau tan y gwanwyn nesaf.
Byddai gohirio yn creu mwy o sialens
“Ar ôl ystyried yn ofalus iawn, rydyn ni wedi penderfynu gweithredu’r toriadau yng nghyllideb 2010-11 eleni – heb niweidio’r gwasanaethau rheng flaen, heb dynnu arian o’n blaenoriaethau allweddol ac heb beryglu’r adferiad economaidd bregus,” meddai Jane Hutt.
Dywedodd Jane Hutt fod y Llywodraeth wedi penderfynu amddiffyn y gyllideb gyfalaf er mwyn i fuddsoddiadau mewn addysg, tai, iechyd a gofal cymdeithasol gael mynd yn ei blaenau.
Fe ddywedodd ei bod hi eisiau gwneud hi’n glir nad yw’r Llywodraeth Cymru yn meddwl y dylai Llywodraeth y DU fod yn gosod y toriadau hyn ar Gymru.
“Maen nhw’n taro Cymru’n galetach na gweddill y Deyrnas Gyfun,” meddai.
Wrth gyfiawnhau’r penderfyniad i fwrw mlaen i dorri eleni fe ddywedodd na fyddai gohirio’r toriadau tan y flwyddyn nesaf “y peth iawn i’w wneud gan y byddai’n golygu y byddai rhaid wynebu sialens hyd yn oed yn fwy yn ystod 2011-12.”