Mae Prif Weinidog Cymru wedi cyhoeddi Rhaglen Ddeddfwriaethol y Llywodraeth ar gyfer sesiwn bresennol y Cynulliad.

Fe wnaeth Carwyn Jones gyflwyno’r Rhaglen newydd i Aelodau’r Cynulliad mewn cyfarfod llawn heddiw.

Dywedodd fod y Llywodraeth wedi llwyddo trwy raglen Cymru’n Un i “gyflawni llawer er budd pobl Cymru…. a lle bo’n briodol, rydym wedi cyflawni hyn trwy ddeddfwriaeth.”

“Efallai fod y Rhaglen Ddeddfwriaethol derfynol hon yn llai na rhaglenni’r blynyddoedd blaenorol ond nid yw’n golygu ei bod yn llai pwysig,” meddai’r Prif Weinidog.

Teithio i’r ysgol, addysg, tai a rhoi organau

Mae’r Rhaglen Ddeddfwriaethol newydd yn cynnwys tri Mesur Cynulliad newydd – Diogelwch Teithio gan Ddysgwyr, Tai ac Addysg – ac un Gorchymyn Deddfwriaethol ar y mater o roi organau.

Dyma fanylion y Mesurau fydd yn cael eu cyflwyno cyn yr etholiadau Cynulliad ym Mai flwyddyn nesaf :

Y Mesur ar Ddiogelwch Teithio – Mesur yn ymwneud â gwella cludo disgyblion i’r ysgol.
Y Mesur Tai – Bydd awdurdodau lleol yn gallu gwneud cais fyddai’n atal pobol rhag prynu tai Cyngor mewn ardaloedd lle mae tai yn brin. Bydd hefyd yn rhoi mwy o bwerau i’r Llywodraeth wrth reoleiddio’r cyrff sy’n darparu tai cymdeithasol.
Y Mesur Addysg – bydd y Mesur hwn yn cynnwys gwella llywodraethu ysgolion gyda’r nod o godi safonau addysg. Bydd yn annog mwy o gydweithredu rhwng ysgolion a darparwyr addysg eraill.
Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar Roi Organau – Mae’r Llywodraeth yn bwriadu ceisio cael y pwerau fydd yn arwain at fesur fydd yn cymryd yn ganiataol bod pobol yn fodlon rhoi eu horganau os byddan nhw’n marw – os na fyddan nhw’n dweud fel arall.