Fe fydd 200 o swyddi yn diflannu o Abertawe wrth i ffatri cydrannau ceir Linamar gau.

Mae undeb llafur Unite wedi condemnio’r newyddion ac wedi galw am drafodaethau brys i geisio achub y swyddi.

Yn ôl yr undeb llafur, mae ffatri Linamar yn bwriadu cau erbyn 2010 gyda’r gwaith yn cael ei drosglwyddo i weithfeydd tramor.

Fe agorodd y ffatri yn y 1960au ac mae Ford a Visteon wedi bod yn berchen arni yn y gorffennol, cyn i gwmni Linamar o’r Unol Daleithiau gymryd drosodd yn 2009.

Galw am newid y penderfyniad

Mae Unite wedi galw ar y cwmni i newid eu penderfyniad a cheisio canfod ffyrdd eraill o gadw’r ffatri ar agor a chadw’r swyddi yn Abertawe.

“Mae cau’r ffatri yn Abertawe yn ergyd arall i’r gymuned leol a’r sector cydrannau ceir yng Nghymru, sydd eisoes wedi dioddef oherwydd y dirwasgiad,” meddai Ysgrifennydd Rhanbarthol Unite yng Nghymru, Andy Richards.

“Fe fydd Unite yn gwneud popeth yn ein gallu i gadw’r ffatri ar agor. Rwy’n gwahodd y cwmni i gyfarfod â ni a gwleidyddion i chwilio am ffyrdd o gadw’r ffatri ar agor.”

Llun : Ffatri Linamar