Mae sôn y bydd Joe Ledley yn penderfynu naill ai ymuno gyda Celtic neu Stoke heddiw.

Mae cytundeb presennol chwaraewr canol cae Caerdydd yn dod i ben ac mae disgwyl iddo adael clwb prifddinas Cymru ar ôl iddyn nhw fethu symud i’r Uwch Gynghrair y tymor diwethaf.

Beth bynnag fydd penderfyniad Ledley, fe fydd yn cael effaith mawr ar yr Adar Glas. Pe bai’r Cymro yn penderfynu symud i’r Alban fyddai Celtic ddim yn gorfod talu’r un geiniog o iawndal i Gaerdydd.

Ond pe bai Ledley yn arwyddo gyda Stoke, fe fyddai’n rhaid iddyn nhw dalu iawndal i’r Adar Glas. Felly fe fydd Caerdydd yn gobeithio bod Joe Ledley yn ymuno gyda chlwb yr Uwch Gynghrair er mwyn iddyn nhw dderbyn iawndal.

Mae Joe Ledley wedi chwarae dros 200 o gemau i Gaerdydd ac wedi cynrychioli Cymru 32 gwaith. Felly fe ddylai’r Adar Glas dderbyn swm sylweddol amdano.

Mae’n debyg bod Stoke yn fodlon talu £3m o iawndal i Gaerdydd, ond fe allai’r Adar Glas hawlio mwy na hynny mewn tribiwnlys.

Gyda Chaerdydd yn wynebu gorchymyn dirwyn y clwb i ben unwaith eto dros ddyledion o £1.3m, fe fyddai gweld Ledley yn arwyddo gyda Celtic yn ergyd mawr i’r clwb.

Llun: Joe Ledley