Mae’r olew sy’n parhau i lifo allan o beipen mewn i’r môr yng Ngwlff Mecsico wedi cyrraedd llyn dŵr halen Pontchartrain yn nhalaith Lousiana yn yr Unol Daleithiau.
Roedd rhwystrau wedi cael eu gosod, ond mae gwyntoedd cryfion gan gorwynt wedi gwthio’r llygredd heibio nhw.
Mae awdurdodau’r dalaith wedi atal pysgota ar ochor ddwyreiniol y llyn anferth (600 milltir sgwâr) sydd i’r gogledd o ddinas New Orleans.
Mae’r gwaith clirio wedi dechrau eisoes.
Roedd y llyn wedi dioddef llygredd yn y gorffennol, ond roedd wedi clirio dros y blynyddoedd diwethaf ac mae’r diwydiant pysgota ac ymwelwyr wedi ffynnu.
Cafodd nifer o ddociau a bwytai o’i amgylch eu difa yn ystod Corwynt Katrina, a chafodd dŵr llygredig o ddreiniau’r dref hefyd ei gollwng i mewn yno ar y pryd.
Olew yn llifo ers ffrwydrad
Mae miliynau o alwyni o olew wedi bod yn llifo i’r môr yng Ngwlff Mecsico ers ffrwydrad ar lwyfan olew oedd yn cael ei reoli gan gwmni BP ar 20 Ebrill.
Mae’n cael ei ystyried fel y drychineb amgylcheddol waethaf i daro’r Unol Daleithiau erioed.
Llun : Trychineb olew Gwlff Mecsico ( Gwifren PA)