Mae dyn 19 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl i gorff dyn arall gael ei ganfod mewn tŷ yn y Gogledd.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i dŷ ar Ffordd Laneilian ym Mae Colwyn ychydig cyn 2.00 y bore heddiw.

Ar ôl cyrraedd y tŷ fe gafodd corff dyn 61 oed ei ganfod yn y cartref. Roedd y dyn gafodd ei arestio yn byw yn y tŷ ac ar hyn o bryd mae yn y ddalfa yng Ngorsaf Heddlu Llanelwy.

Mae nifer o dystion yn helpu’r heddlu gyda’u hymchwiliadau, ac fe fydd post mortem yn cael ei gynnal ar y corff heddiw.