Bydd milwyr yr Unol Daleithiau’n cymryd lle milwyr Prydain yn un o ardaloedd peryclaf talaith Helmand, yn ôl adroddiadau papur newydd.
Fe fydd y newid yn digwydd yn ardal wledig Sangin, ble mae ymladd ffyrnig iawn wedi bod yn ystod yr wythnosau diwetha’.
O’r 312 o’r milwyr Prydeinig sydd wedi marw yn Afghanistan, cafodd tua 100 eu lladd yno .
Y gred yw y bydd y newyddion yn cael ei gyhoeddi heddiw gan yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Liam Fox. Mae llefarwyr ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi gwrthod cadarnhau’r dyfalu.
Mae’n debyg y bydd lluoedd Prydain yn canolbwyntio ar ganolbarth Afghanistan, tra bydd yr Unol Daleithiau yn canolbwyntio ar y gogledd a’r de.
Trafod
Y gred yw bod y newid wedi cael ei drafod rhwng Prif Weinidog Prydain, David Cameron, ac Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, yn ystod cynhadledd yr G20 yn Toronto.
Ond mae ofnau y gallai hyn edrych fel bod byddin Prydain yn dianc ac yn cael eu hachub gan yr Americanwyr.
Ac mae ofnau y bydd marwolaethau’r 100 o filwyr yn yr ardal yn cael ei ystyried i fod yn wastraff.