Fe allai’r bwriad i benodi Cymro hoyw’n esgob yn Eglwys Lloegr arwain at “ryfel cartref” meddai gwefan Anglicanaidd.
Y gred yw bod enw Jeffrey John yn cael ei gynnig i fod yn Esgob Southwark yn Llundain ac y bydd Pwyllgor Penodiadau’r Goron yn cadarnhau hynny’r wythnos hon.
Yn 2003, roedd yna ddadlau ffyrnig o fewn yr eglwys ar ôl i’r clerigwr o Donyrefail ger Caerdydd gael ei ystyried ar gyfer esgobaeth Reading.
Yn y diwedd, fe ofynnodd Archesgob Caergaint, Rowan Williams, iddo dynnu’n ôl ond, y tro yma, y gred yw mai’r Archesgob oedd yn cadeirio’r pwyllgor i’w benodi.
‘Rhwyg’
Yn ôl gwefan Anglican Mainstream, fe fyddai rhoi’r swydd i Jeffrey John yn arwain at rwyg mawr rhwng carfannau rhyddfrydol a cheidwadwyr o fewn yr eglwys.
Ar hyn o bryd, mae Jeffrey John yn Ddeon yn St Albans ac fe gafodd ei enw ei grybwyll adeg penodi Esgob ym Mangor yn 2008. Roedd yna ddadlau tros y sïon bryd hynny hefyd.
Er ei fod yn ymgyrchu tros hawliau hoyw, roedd Jeffrey John, sy’n 57 oed, wedi mynnu ei fod yn byw’n ddiwair.
Roedd wedi dechrau ei yrfa o fewn yr eglwys yn gurad ym Mhenarth.
Llun: Eglwys Gadeiriol Southwark