Mae’r Prif Weinidog wedi cyhoeddi y bydd yna ymchwiliad annibynnol i honiadau fod Prydain yn rhan o’r arteithio ar derfysgwyr honedig yn dilyn ymosodiadau 9/11.

Fe ddywedodd David Cameron wrth Dŷ’r Cyffredin bod yr ymchwiliad yn angenrheidiol i “adfer arweinyddiaeth foesol Prydain yn y byd”.

Roedd y pwysau am gynnal ymchwiliad wedi cynyddu ers i gyn garcharor o Fae Guantanamo, Binyam Mohamed, ddweud iddo gael ei arteithio ym Mhacistan wrth gael ei ddal gan y CIA.

Mae’n honni bod gwasanaethau diogelwch Prydain yn ymwybodol o’r hyn oedd yn digwydd.

Drysau caeedig

Mae David Cameron wedi dweud y bydd y rhan fwyaf o’r dystiolaeth yn cael ei chlywed y tu ôl i ddrysau caeedig oherwydd diogelwch.

Ond mae wedi addo y bydd yr ymchwiliad yn cael gweld yr holl ddogfennau priodol gan gynnwys y rhai hynny sydd gan y gwasanaethau cudd.

Bydd yr ymchwiliad, sy’n cael ei gadeirio gan gyn farnwr Llys yr Apêl, Syr Peter Gibson, yn dechrau erbyn diwedd eleni gan adrodd yn ôl ymhen 12 mis.