Mae’r beiciwr o Gaerdydd, Geraint Thomas, yn ail ar amser yn ras y Tour de France ar ôl dod yn ail yn y cymal cyflym heddiw.

Dim ond 23 eiliad yw e y tu ôl i wisgwr y siwmper felen, Fabian Cancellara o’r Swistir ac mae’n golygu fod y reidiwr 24 oed hefyd yn gyntaf o blith y cystadleuwyr ifanc.

Dim ond ar y diwedd un y cafodd ei guro heddiw gan y gwibiwr o Norwy, Thor Hushovd, ar ôl cymal o 213 km trwy rannau o dde Gwlad Belg.

Mae’n seiclo tros dîm Sky Pro Cycling.