Roedd swyddogion o Heddlu Gogledd Cymru wedi dangos diffyg profiad, sgil a gallu wrth fethu ag achub gwraig a fu farw o effaith alcohol, cyffuriau ac oerfel.
Yn ôl adroddiad gan Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu, roedd unigolion a’r Heddlu ei hun wedi methu yn eu dyletswyddau ac yn eu polisïau a’u trefniadau gwaith.
Roedd dau gwnstabl wedi methu’n llwyr wrth chwilio am Brita Burns yng Nghaernarfon, roedd dau ringyll wedi methu â’u cyfarwyddo’n iawn ac wedi methu ag ymateb i ddifrifoldeb y sefyllfa. Yn ôl y Comisiwn, doedd dim cofnodion o gwbl wedi eu gwneud.
“Roedd gweithredoedd swyddogion Heddlu Gogledd Cymru wrth geisio dod o hyd i Brita’n wael iawn,” meddai adroddiad y Comisiwn.
Roedd dau ringyll wedi gorfod derbyn cyngor ynglŷn â’u perfformiad ac mae 11 o argymhellion wedi eu gwneud a’u derbyn gan yr Heddlu.
Cefndir yr achos
Fe fu farw Brita Burns, 39 oed, yng Nghaernarfon ym mis Gorffennaf y llynedd, er bod yr heddlu wedi cael clywed ei bod mewn peryg ac wedi cael cyfarwyddiadau manwl ble’r oedd hi.
Roedd y wraig, a oedd â hanes o afiechyd meddwl, wedi ffonio’i merch i ddweud ei bod wedi cymryd tabledi cysgu a thabledi lladd poen, yn ogystal ag alcohol.
Fe ddywedodd yn glir ei bod yn gorwedd mewn llwyni ynghanol y dref ac fe roddodd y ferch y cyfarwyddiadau manwl i’r heddlu.
Roedd hynny toc cyn dau o’r gloch y bore ar 17 Gorffennaf – bron ddeuddeg awr yn ddiweddarach y daeth dyn busnes lleol o hyd i’w chorff.
Fe gafodd yr adroddiad ei gyhoeddi ar ôl i’r Crwner lleol gynnal cwest heddiw. Fe ddywedodd yntau y gallai’r heddlu fod wedi dod o hyd i’r wraig yn fyw.