Lan yn ein swyddfa ni r’yn ni’n dal i grenshan trwy Adroddiad Holtham gyhoeddwyd bore ma. Doedd dim Gweinidog yn ein hannerch ni yn slot briffing y Llywodraeth heddiw, ond yn hytrach arweiniad ar yr adroddiad ar ariannu Cymru gan Gerry Holtham, yr economegydd o Aberdar, David Miles, arbenigwr mewn marchnadoedd arian o Abertawe (fe sydd o Abertawe, nid y marchnadoedd!) a Bernd Spahn, Athro Emeritws o Brifysgol Goethe, Frankfurt am Main yn yr Almaen sydd wedi cynghori dros 50 o lywodraethau dros y byd. Yn ei grynswth mae’r adroddiad yn cadarnhau dau beth -yr hyn ddywedodd yr adroddiad cyntaf, bod angen ariannu Cymru ar sail angen, ac y dylid rhoi pwerau trethi i’r Cynulliad fel ei fod yn sefydliad democrataidd credadwy, sy’n atebol i’w etholwyr. Fe fydd pobol mwy deallus na fi yn y maes economaidd yn gallu’ch goleuo chi’n ehangach ar gynnwys yr adroddiad. Yr hyn ddenodd fy sylw i oedd sylwadau Holtham ar y budd i economi Prydain a’r angen i leihau’r ddyled o gyflwyno system gyllido ar sail angen.

Mae cytundeb y glymblaid yn San Steffan yn dweud bod angen aros i ddelio â’r argyfwng economaidd cyn dechrau edrych ar fformiwla o ariannu’r rhanbarthau. Mae Holtham yn dweud y bydd ariannu’r holl ranbarthau ar sail angen yn arbed arian -“cwpwl o biliynau y flwyddyn” i fod yn fanwl.

Y cwestiwn felly yw: pam yr oedi? Mae’r glymblaid yn fwy na pharod i ddweud bod angen cyllido’r gwledydd datganoledig ar sail angen ac mae’r pleidiau wedi nodi ei bwriad i ddelio â hynny wedi’r refferendwm yn y cytundeb clymbleidio sy’n brin iawn ei gyfeiriadaeth at Gymru. “Mater o flaenoriaethau” yw hi medd Bourne yn ei sesiwn wythnosol gyda’r wasg. Y flaenoriaeth fwyaf yw lleihau’r ddyled, felly maddeuwch i fi am deimlo’n ddryslyd fan hyn. Er mwyn lleddfu’r dryswch, mae eglurhad gwych gan Bourne. Does dim angen cyfiawnhad rhesymegol dros benderfyniad gwleidyddol. Na fe te.

Ond i drio bod yn rhesymegol, ai’r rheswm yw bod yr Alban yn cael bargen rhy dda, ac yn derbyn llawer mwy na maen nhw ei angen trwy fformiwla Barnett? Does dim brys ar Danny Alexander, Prif Ysgrifenydd y Trysorlys ac AS sedd ymylol bedair ffordd yn yr Alban, i roi dêl ariannol waeth i wlad ei febyd.

Tra’n cytuno’n llwyr y byddai’r Alban ar ei cholled yn ariannol o newid y drefn gyllido i un ar sail angen, mae Holtham yn dweud y byddai manteision eraill i’r wlad. Mae gan yr Alban y pwer i amrywio treth incwm o 3c yn barod. Ers 1999 i fod yn fanwl. Ond dydyn nhw erioed wedi defnyddio’r grym hwnnw. Pam? Wel, yn ôl Holtham mae’n amlwg (ac yn gwbl resymegol). Mewn cyfweliad sydyn gyda’r newyddiadurwryr print, dyma oedd ei eglurhad (yn y Saesneg gwreiddiol)

“They’ve had a 3p tax power, they’ve never used it. Why didn’t they raise rates? They never needed to. In the rapid growth of public expenditure in the noughties they had money coming out of their ears. They had their unused money at the end of the year was piling up… they froze council tax because they could afford to do it. But they never reduced income tax. Why didn’t they? Because they damn well knew if they reduced their income tax there’d be howls of outrage from the north east of England, the north west of England saying “We told you they had too much income and now look they’re cutting income tax.” If the block grant is arbitrary and not on a sound basis, tax devolution becomes a bit of a fiction, you daren’t use it because it will invite an enquiry on your block grant. If your block grant is on a sound basis…people are getting money on a clear set of criteria, then if you’ve got tax powers you can do what you like….We would argue that putting the grant on a solid basis, solid justifiable basis, actually liberates the devolved authority to do what it wants with any tax powers it’s got. The Scots have clearly been inhibited until now because of the fact that grant is not on a publicly justifiable grants basis.”