Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau a Phrif Weinidog Israel wedi cyfarfod yn y Tŷ Gwyn heddiw er mwyn ceisio atgyfodi trafodaethau heddwch y Dwyrain Canol.
Mae Benjamin Netanyahu wedi cytuno i gais yr Unol Daleithiau i gynnal trafodaethau uniongyrchol rhwng Israel â’r Palesteiniaid.
Fe ddaw hyn ddyddiau’n unig ar ôl i Barack Obama ddweud y byddai’n gwthio’r trafodaethau hynny yn eu blaen.
Dywedodd Benjamin Netanyahu bod yr amser wedi dod i Arlywydd y Palesteiniaid, Mahmoud Abbas, baratoi i gwrdd â’r Israeliaid “oherwydd does dim un ffordd arall o symud heddwch ymlaen.”
Roedd cynorthwywyr Barack Obama wedi dweud bod trafodaethau gan brif gennad Arlywydd yr Unol Daleithiau yn y Dwyrain Canol wedi helpu dod â’r ddwy ochr yn agosach at drafodaethau uniongyrchol.
Mae disgwyl hefyd i Barack Obama a Benjamin Netanyahu drafod penderfyniad Israel i leihau’r blocâd ar lain Gaza.
Roedd Israel wedi bod dan bwysau rhyngwladol i lacio’r blocâd yn dilyn cyrch Israel ar lynges fechan oedd yn cludo cymorth i’r Palesteiniaid ar 31 Mai eleni.
Bydd arweinyddion yr Unol Daleithiau ac Israel hefyd yn cynnal trafodaethau ynglŷn ag ymdrechion i ddod â chynlluniau arfau niwclear Iran i ben.