Fe fydd Cyngor Ceredigion yn bwrw mlaen gyda’r cynllun i sefydlu ysgol cyfrwng Cymraeg newydd yn ardal Tregaron.

Penderfynodd Cabinet y Cyngor Sir y dylid creu ysgol ar gyfer plant a phobol ifanc rhwng 3 a 19 oed ar dair safle.

Fe fydd y canolbwynt yn Nhregaron a bydd ysgol ffederal 3-11 oed ym Mhontrhydfendigaid ac ail ysgol ffederal 3-11 oed i’r gorllewin o Dregaron.

Cytunodd y Cabinet i fwrw ymlaen â’r ymgynghoriad ffurfiol i gau Ysgol Uwchradd Tregaron ac Ysgolion Cynradd Tregaron, Lledrod, Bronnant, Llangeitho, Penuwch, Pontrhydfendigaid a Llanddewi Brefi.

Mae hyn yn dilyn cyhoeddi astudiaeth dichonolrwydd dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Elystan Morgan a chyfnod o drafod yn lleol dan arweiniad y Cyngor Sir.

Mae’r Cabinet eisoes wedi cytuno ar yr egwyddor o sefydlu ysgol cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion oed 3-19 yn ardal Llandysul ac i ymgynghori’n ffurfiol i gau Ysgol Dyffryn Teifi ac ysgolion cynradd Llandysul, Coed-y-Bryn, Aber-banc, Pontsian a Chapel Cynon.