Bydd llawysgrif waedlyd a’r map cyntaf i gael ei argraffu yng Nghymru ymysg y trysorau sy’n cael eu harddangos gan Brifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan dros y mis nesaf.
Mae’r arddangosfa yn dathlu 250 mlynedd ers geni un o noddwyr cynnar y Brifysgol, Thomas Phillips.
Fe fydd yn gynnwys enghreifftiau o’r llyfrau a llawysgrifau prin a roddodd i’r Brifysgol rhwng 1834 a 1852.
Maen nhw’n “drysorau cudd” yn ôl curadur cynorthwyol y brifysgol, Peter Hopkins, ac maen nhw’n “gaffaeliad diwylliannol” i Gymru.
Gwaed y Mynach
Ymysg y gweithiau mae llawysgrif ‘Gwaed y Mynaich’ sy’n dangos ôl llofruddiaeth mynach gan yr Eingl Sacsoniaid ym Mynachlog Bangor-Is-y-Coed ger Wrecsam.
Mae’r map cyntaf o Gymru i gael ei argraffu (yn 1568) a’r atlas cyntaf (1573) hefyd i’w gweld. Maen nhw ymhlith trysorau o hen lyfrgell y Brifysgol, sy’n cael ei ystyried yn un o’r casgliadau gorau yng ngwledydd Prydain.
Yn ogystal â hynny bydd dyddiadur oddi ar long yr HMS Elizabeth o’r ddeunawfed ganrif yno, yn ogystal â llyfr a gafodd ei gyhoeddi yn 1575 yn Zurich, sydd â lluniau a disgrifiadau o greaduriaid dychmygol.
Y rhyngrwyd
Dim ond am gyfnod y bydd y gweithiau yn cael eu dangos, ond bydd arddangosfa barhaol a thipyn yn fwy eang ar gael ar y rhyngrwyd o ddydd Mawrth ymlaen: www.lamp.ac.uk/rodericbowen/
Bydd yr arddangosfa yn y llyfrgell o 12 Gorffennaf hyd 2 Awst, heblaw ar benwythnos. Ond fe fydd ar agor ddydd Sadwrn 24 Gorffennaf, adeg Gŵyl Fwyd Llanbed.