Mae albwm newydd Tom Jones, Praise & Blame, wedi’i feirniadu – gan is-lywydd ei label recordiau ei hun.

Dywedodd David Sharpe, is-lywydd Island Records, ei fod yn o’n “casáu themâu eglwysaidd’ yr albwm mewn e-bost at ei gydweithwyr.

“’Dw i newydd wrando ar yr albwm ac eisiau gwybod ai jôc wael yw hyn?” meddai David Sharpe, yn ôl papur newydd y Telegraph.

“Nid ydym yn buddsoddi ffortiwn mewn artist er mwyn iddo ganu 12 o draciau o’r llyfr gweddi cyffredin. Nid dyma wnaethon ni dalu amdano. “

Aeth yn ei flaen i ddweud bod rhaid “tynnu’r prosiect yn ôl ar unwaith” neu “cael eu harian yn ôl”.

Dywedodd llefarydd ar ran Island Records wrth Golwg360 nad oedd gan y cwmni recordiau “ddim i’w ’ddweud” ynglŷn a’r mater.

Mae papur newydd y Guardian yn dyfalu mai stynt cyhoeddusrwydd yw’r e-bost, er mwyn tynnu sylw’r wasg at Praise & Blame cyn ei ryddhau.