Mae ymosodwr Clwb Pêl-droed Llanelli, Rhys Griffiths yn hyderus y bydd tîm Andy Legg yn cyrraedd rownd nesaf Cynghrair Europa.

Bydd Llanelli yn wynebu FK Tauras yn ail gymal rownd rhagbrofol gyntaf Cynghrair Europa yn Lithuania nos Iau.

Fe orffennodd y cymal cyntaf yn gyfartal 2-2 ar Barc Stebonheath yr wythnos diwethaf, ond roedd y ddwy gôl oddi cartref yn rhoi’r fantais i FK Tauras.

Roedd Griffiths yn eilydd yn y cymal cyntaf am ei fod newydd ddychwelyd o’i fis mêl, ond mae’n credu bod cyfle da gyda Llanelli i gyrraedd y rownd nesaf.

“Fe ddylwn i fod wedi sgorio yn y cymal cyntaf, ond rwy’n ffyddiog o sgorio yn yr ail gymal,” meddai Rhys Griffiths ar wefan swyddogol y clwb.

“Dyw FK Tauras ddim yn well tîm na ni. Ond r’yn ni’n ymwybodol o’r her sydd o’n blaenau ni ac fe fyddwn ni’n barod amdanyn nhw.

“Roedd pawb yn yr ystafell newid yn gwybod y dylen ni fod wedi ennill y cymal cyntaf,” ychwanegodd prif sgoriwr yr Uwch Gynghrair.