Mae Kirtsy Williams wedi galw am gynnal Etholiad y Cynulliad a’r refferendwm ar newid y sustem bleidleisio ar gyfer Etholiadau Cyffredinol yr un diwrnod.
“Allen ni ddim cyfiawnhau gofyn i bobol fynd i’r blwch pleidleisio tair gwaith mewn pedair mis,” meddai.
Cyhoeddodd Nick Clegg yn Senedd San Steffan heddiw y byddai’r refferendwm yn cael ei gynnal ar 5 Mai, diwrnod arfaethedig Etholiad y Cynulliad.
Ond mae’r Ceidwadwyr a Llywodraeth Cymru wedi awgrymu y dylid symud Etholiad y Cynulliad i fis Mehefin 2011 er mwyn osgoi’r gwrthdaro.
Bydd refferendwm ar bwerau pellach i’r Cynulliad hefyd yn cael ei gynnal yn nhair mis cyntaf 2011, felly mae’n bosib y bydd yna dri etholiad gwahanol o fewn ychydig fisoedd i’w gilydd yng Nghymru.
“Rydw i eisoes wedi dweud na fydden ni’n cefnogi cynnal refferendwm y Cynulliad ac Etholiad y Cynulliad ar yr un diwrnod,” meddai Kirsty Williams.
“Fyddai hi ddim yn iawn pe bai Aelodau’r Cynulliad yn ymosod ar ei gilydd ar un platfform ac yn sefyll gyda’i gilydd ar blatfform arall.
“Ond mae’r refferendwm ar bleidlais amgen yn un i Brydain gyfan ac fe fydd ei gynnal o’r un diwrnod ac Etholiad y Cynulliad yn arbed arian ac yn annog mwy o bobol i bleidleisio.
“Dydw i ddim yn gweld sut y byddai ymgyrchu yn Etholiad y Cynulliad yn mynd yn groes i ymgyrchu yn y refferendwm.
“Mae etholiadau yn costio lot o arian ac allen ni ddim cyfiawnhau gwario heb fod eisiau.”