Mae’r Dirprwy Brif Weinidog wedi cadarnhau yn Senedd San Steffan y bydd refferendwm ar newid y sustem bleidleisio mewn etholiadau cyffredinol yn cael ei gynnal ar 5 Mai.
Fe fydd maint pob un ond dau o etholaethau Prydain hefyd yn cael eu newid cyn 2015, meddai.
Dywedodd y byddai cyflwyno deddfwriaeth er mwyn newid meintiau etholaethau yn fuan yn golygu bydd y broses wedi ei orffen erbyn 2013, gan roi digon o amser ar gyfer dewis ymgeiswyr ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol ar 7 Mai 2015.
“Mae hynny’n golygu, os oes pleidlais o blaid y system pleidlais amgen yn y refferendwm, fe fydd Etholiad Cyffredinol 2015 yn cael ei gynnal dan sustem bleidleisio a ffiniau newydd,” meddai.
Fe fydd newid y ffiniau yn torri nifer yr etholaethau ym Mhrydain o 650 i 600, ac fe fydd hynny’n safio £12 miliwn bob blwyddyn mewn tal, pensiynau a chostau, meddai Nick Clegg.
Fe fydd rhaid i’r Comisiwn Ffiniau sicrhau bod nifer yr etholwyr ym mhob etholaeth o fewn 5% o darged y Llywodraeth.
Yr unig ddwy etholaeth fydd yn aros yn gyfan fydd ynysoedd Na h-Eileanan Siâr, ac Ynysoedd Erch a Shetland.
Mae hynny’n awgrymu y bydd rhaid i etholaeth Ynys Môn ymestyn i dir mawr Cymru mewn rhyw fodd. Mae disgwyl i nifer yr etholaethau yng Nghymru gael ei leihau.
“Gyda’i gilydd mae’r cynigion yma yn cywiro’r annhegwch mawr yn y ffordd ydan ni’n cynnal etholiadau yn y wlad yma,” meddai Nick Clegg.
“Dan y sustem bresennol, mae pleidlais yn cyfri mwy yn rhai rhannau o’r wlad nag eraill, ac mae miliynau yn teimlo nad ydy eu pleidleisiau nhw’n cyfri o gwbwl.
“Mae etholiadau yn cael eu hennill a’u colli ar nifer bach iawn o seddi.”
Ymateb Llafur
Dywedodd ysgrifennydd cyfiawnder yr wrthblaid, Jack Straw, bod Llafur yn cefnogi refferendwm ar y bleidlais amgen ac wedi addo un yn ei faniffesto ei hun.
Ond condemniodd y newidiadau ffiniau gan awgrymu y byddai’r Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn elwa tra byddai y Blaid Lafur yn dioddef.
Mae nifer o etholaethau dinesig Llafur yn rai bychan a nifer o rai gwledig y Ceidwadwyr yn rhai mawr o ran poblogaeth.