Mae Celtic yn dal i geisio arwyddo Joe Ledley oddi ar Gaerdydd, ac mae clwb Parkhead wedi targedu Peter Whittingham hefyd.

Mae Stoke City yn parhau i fod yn ffefrynnau i sicrhau llofnod y Cymro, ar ôl i Ledley gynnal trafodaethau gyda hyfforddwr y clwb, Tony Pulis, yr wythnos diwethaf.

Roedd West Brom hefyd wedi ceisio arwyddo’r chwaraewr canol cae dros y penwythnos, ond mae Celtic, sydd eisoes wedi siarad gyda Ledley, yn dal i geisio denu’r Cymro i Glasgow.

Mae rheolwr newydd Celtic, Neil Lennon yn awyddus i gryfhau ei garfan cyn i’r tymor newydd ddechrau.

Mae disgwyl i chwaraewr Celtic, Aiden McGeady adael y clwb dros yr haf, ac mae Peter Whittingham yn cael ei ystyried yn chwaraewr delfrydol i gymryd ei le.

Mae’r Adar Glas eisoes wedi gwrthod cynnig o £1.75m gan Burnely am brif sgoriwr y Bencampwriaeth, gan fynnu ei fod o werth o leiaf £3m.

Mae Caerdydd yn awyddus i gynnal trafodaethau gyda Peter Whittingham ynglŷn â chytundeb newydd i chwarae i’r clwb.