Mae gol-geidwad Cymru, Wayne Hennessey, wedi arwyddo cytundeb pum mlynedd newydd gyda Wolves.

Roedd gan y Cymro dwy flynedd yn weddill ar ei gytundeb, ond datgelodd y bydd o’n aros yn stadiwm Molineaux tan 2015.

Hennessey oedd dewis cyntaf y tîm ar ddechrau’r tymor diwethaf, ond fe gollodd ei safle i’r Americanwr Marcus Hahnemann yn ystod y tymor.

Ond mae Wayne Hennessey wedi ymrwymo ymhellach i’r clwb ac mae’n gobeithio ail ennill ei le yn y tîm.

Mae rheolwr y clwb, Mick McCarthy, wrth ei fodd gyda’r newyddion bod y Cymro am aros gyda’r clwb yn y tymor hir..

“R’yn ni’n lwcus bod gennym ni dri gol-geidwad da iawn sy’n brwydro am le yn y tîm. Rwy’n credu bod Wayne yn gol-geidwadifanc o’r safon uchaf ac fe fydd o’n gwella eto,” meddai rheolwr Wolves.

“Mae’n newyddion da ein bod ni wedi cadw un o chwaraewyr ifanc gorau’r clwb, ac un fydd yn awyddus i chwarae rhan fawr yn y dyfodol.”

Fe adawodd Wayne Hennessey Man City am Wolves pan oedd yn 16 oed, ac fe ddechreuodd ddangos ei ddoniau yn ystod cyfnod ar fenthyg gyda Stockport yn 2007.