Mae’r Aelod Cynulliad, Nerys Evans, yn dweud ei bod yn poeni am gynlluniau Llywodraeth San Steffan i ganiatáu i’r rhai sy’n cael eu cyhuddo o dreisio gael aros yn ddienw tan iddyn nhw gael eu canfod y euog o’r drosedd.

Mae hi’n dadlau y byddai’r cynllun yma’n tanseilio strategaeth Llywodraeth y Cynulliad i atal trais yn erbyn menywod.

“Tra rwy’n deall y pryder mae cyhuddiadau o dreisio ffug yn gallu achosi, mae’n rhaid cydnabod bod y gyfradd o gyhuddiadau ffug yn debyg iawn i rai am droseddau eraill,” meddai Nerys Evans sy’n cynrychioli Canolbarth a De Orllewin Cymru.

“Dyw Llywodraeth San Steffan ddim yn cynnig i ddiffynyddion mewn achosion llofruddiaeth i aros yn ddienw, felly pam ddylai achosion treisio cael eu trin yn wahanol?

“Mae’r ystadegau diweddaraf yn amcangyfrif’ bod tua chwarter o fenywod y Deyrnas Unedig wedi dioddef ymosodiad rhywiol, ond dim ond 15% o droseddau rhywiol difrifol yn erbyn pobl 16 oed a hŷn sy’n cael eu hadrodd i’r heddlu.

“Mae llawer o waith wedi cael ei wneud yng Nghymru gan y llywodraeth a’r sector gwirfoddol i ddatblygu strategaeth i leihau trais yn erbyn menywod.

“Ond rwy’n credu bydd y cynlluniau yma’n tanseilio’r gwaith yma.”

Llun: Nerys Evans.