Mae ASau wedi galw am ymchwiliad i gyflwr pêl droed yn Lloegr yn dilyn perfformiad gwan y tîm rhyngwladol yng Nghwpan y Byd yn Ne Affrica.

Mae dau Aelod Seneddol David Amess, sy’n cynrychioli Gorllewin Southend a Mike Hancock, De Portsmouth wedi beirniadu tîm Fabio Capello am siomi’r cefnogwyr ac maen nhw’n galw am ymchwiliad brys i gyflwr y gêm genedlaethol.

Mae nhw hefyd yn beirniadu chwaraewyr yr Uwch Gynghrair gan ddweud eu bod nhw’n cael gormod o gyflog ac nad ydyn nhw’n perfformio ar eu gorau.

Fe aeth Lloegr allan o Gwpan y Byd ar ôl colli 4-1 i’r Almaen yn ail rownd y gystadleuaeth.

Roedden nhw eisoes wedi cael ei beirniadu am berfformiadau gwael yn eu gemau agoriadol yn erbyn yr Unol Daleithiau ac Algeria.

Mae Cymdeithas Bêl Droed Lloegr wedi dweud y bydden nhw yn penderfynu ar ddyfodol Fabio Capello o fewn pythefnos.

Llun: Fabio Capello.