Mae gwleidyddion yn yr Unol Daleithiau wedi pleidleisio o blaid torri bron i 4 biliwn o ddoleri oddi ar y cymorth maen nhw’n ei roi i lywodraeth Afghanistan.
Daw hyn wrth i ymchwiliad gael ei gynnal yn sgil cyhuddiadau fod swyddogion Afghanistan yn dwyn arian cymorth.
Roedd papur y Washington Post wedi honni fod swyddogion uchaf Llywodraeth Arlywydd Hamid Karzai yn symud miliynau o ddoleri allan o’r wlad ac yn rhwystro ymchwiliad i lygredd.
Mae panel cymorth tramor Tŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau yn mynnu bod y Llywodraeth yn ymchwilio i sut cafodd y biliynau o ddoleri o gymorth ei wario yn y gorffennol.
Daeth y penderfyniad ar ôl i’r panel cyllid gymeradwyo cyllideb o 53 biliwn o ddoleri ar gyfer cymorth dramor y flwyddyn nesaf.
LLUN: Hamid Karzai