Mae pôl piniwn diweddaraf YOUGOV (ITV Cymru) yn datgelu bod mwy o bobl yng Nghymru yn cefnogi’r syniad o gynyddu’r pwerau deddfu sydd gan Gynulliad Cymru.

Yn ôl y pôl piniwn ar gyfer mis Mehefin, mae 55% o bobl yn barod i gefnogi’r bleidlais o blaid cynyddu pwerau deddfu i Gymru, gyda 28% yn erbyn.

Mae hyn yn gynnydd mewn cefnogaeth o gymharu â ffigurau mis Ebrill 2010, lle’r oedd 49% yn cefnogi’r syniad gyda 33% yn erbyn.

Cefnogaeth i’r pleidiau

Mae’r pôl piniwn hefyd yn dangos bod cefnogaeth i’r Blaid Lafur yng Nghymru wedi cynyddu yn sylweddol yn y mis diwethaf.

Pan ofynnwyd i bobl ddewis pa blaid wleidyddol bydden nhw’n cefnogi pe bai Etholiad y Cynulliad yfory, fe nododd 40% eu cefnogaeth i’r Blaid Lafur. Mae hyn yn gynnydd o 10% ers mis Mai.

Mae Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr wedi colli 2% o’u cefnogaeth yn y mis diwethaf tra bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi colli 8% o’u cefnogaeth- disgyn o 20% ym mis Mai i 12% ym mis Mehefin.

Ymateb i’r Gyllideb

Yn ôl y pôl piniwn, mae 43% o’r bobl a holwyd yn credu bod Canghellor Llywodraeth San Steffan, George Osborne wedi mynd rhy bell yn ei ymdrech i leihau diffyg ariannol Prydain.

Ond mae 36% yn credu bod ei gynlluniau i dorri gwariant a chynyddu trethi yn gywir, gyda 8% yn credu nad oedd wedi gwneud digon i leihau diffyg y wlad.

Llun: Cynulliad Cymru