Mae tri o athletwyr Cymru yn gobeithio cael eu dewis yn nhîm Prydain ar gyfer y Bencampwriaeth Ewropeaidd yn Barcelona ar ôl cipio medalau aur ym Mhencampwriaeth y Deyrnas Unedig dros y penwythnos.
Fe enillodd Christian Malcolm, Brett Morse (dde) a David Greene eu campau yn ystod y treialon yn Birmingham.
Cipiodd Malcolm y fedal aur yn y 200m gydag amser o 20.77. Mae hyn 0.02 o eiliadau tu allan i’r amser rhagbrofol ar gyfer y Bencampwriaeth Ewropeaidd, ond roedd yr amodau’n wyntog.
“Rwy’n siomedig i beidio cyrraedd yr amser, ond doedd yr amodau ddim yn berffaith,” meddai.
Ond mae Christian yn dal i obeithio y bydd o’n ennill ei le yn y tîm.
“Dyma fy nghyfle olaf i ennill y Bencampwriaeth Ewropeaidd ac rydw i wedi bod yn anffodus yn y gystadleuaeth dros y blynyddoedd,” meddai.
“Rwy’n gobeithio bydd y dewiswyr yn fy nghynnwys yn y garfan gan gofio sut ydw i wedi perfformio yn y pencampwriaethau.”
Fe enillodd David Greene y ras 400m dros y clwydi gyda’i amser gorau o’r tymor, 48.77. Daeth Cymro arall, Rhys Williams yn ail gydag amser o 49.76.
Dywedodd Greene ei fod yn hapus gyda’i berfformiad a’i fod yn credu y bydd o a Williams yn chwarae rôl bwysig yn Barcelona.
Mae taflwr y ddisgen, Brett Morse hefyd wedi llwyddo i ennill ei gamp gyda thafliad o 61.45m i gipio’r fedal aur. Dyna oedd ei drydydd dafliad gorau erioed.
“Rwy’n gobeithio cael fy newis ar gyfer y Bencampwriaeth Ewropeaidd,” meddai.
“Ond y prif beth i mi eleni yw Gemau’r Gymanwlad. Rwy’n Gymro felly dyna ydi fy nharged pennaf i.”