Mae hyfforddwr y Crusaders, Brian Noble yn credu bod ymdrech fawr ei dîm i guro Leeds yn Headingly wedi effeithio ar eu perfformiad yn erbyn Wakefield ddoe.

Fe gurodd y Wildcats y clwb Cymreig 0-41 ar y Cae Ras ar ôl i’r gêm gychwyn dwy awr yn hwyr.

Roedd y gêm eisoes wedi cael ei symud o 3.00pm i 6.00pm er mwyn osgoi gwrthdaro gyda gêm Lloegr yn erbyn yr Almaen.

Ond bu rhaid i’r gêm gael ei chynnal yn hwyrach ar ôl i ddigwyddiad ar y draffordd achosi oedi i’r ymwelwyr.

Ni chafodd hynny unrhyw effaith ar berfformiad Wakefield a sgoriodd saith cais heb yr un ymateb gan y Crusaders i sicrhau buddugoliaeth gadarnhaol.

“Roedden ni’n dîm gwbl wahanol i’r un a fu dros y cwpl o wythnosau diwethaf ac mae hynny’n rhwystredig,” meddai Noble.

“Doedden ni heb gicio’n dda a doedd dim cymaint o ymdrech yn ein chwarae mewn cymhariaeth â’r gemau cynt.

“R’yn ni’n chwarae’n dda ac wedyn yn methu dilyn hynny gyda pherfformiad arall.

“Fe allen ni fod wedi chwarae am awr arall heb dorri trwy’r llinell, ond rwy’n gwybod y gallwn ni adfer y sefyllfa,” ychwanegodd Brian Noble.