Roedd rhai o sêr y byd canu Cymreig yng Nghaerdydd dros y penwythnos, i nodi diwedd cyfnod un o siopau recordiau mwyaf adnabyddus y brifddinas.

Roedd Spillers – sy’n cael ei adnabod fel siop recordiau hynna’r byd – yn cau ei ddrysau yn yr Ais am y tro olaf ddydd Sadwrn, cyn symud i’w safle newydd.

Agorwyd y siop yn 1894 gan Henry Spiller ac mae o wedi gorfod symud unwaith yn barod. Mae’n debyg mai prisiau rhent uchel sydd wedi gorfodi’r newid y tro yma.

Mae disgwyl i’r siop ail agor yn nes ymlaen yn Arcêd Morgan, yng nghanol y ddinas.

Roedd aelodau o gôr Only Men Aloud yno i nodi’r achlysur, yn ogystal ag aelodau o fandiau Funeral for a Friend a The Alarm.

Y gân olaf i gael ei chwarae yn y siop oedd ‘If You Tolerate This Your Children Will Be Next’, gan y Manic Street Preachers.

(Llun: Y siop wreiddiol yn 1984)