Mae perchnogion busnesau sy’n darparu ar gyfer twristiaid ar lan y môr wedi wfftio awgrym prifysgol bod y diwydiant yn un cryf.
Roedd adroddiad gan Brifysgol Sheffield Hallam wedi dweud fod y diwydiant ‘yn fyw ac yn iach’ ac yn tyfu wrth i fwy o bobol benderfynu aros ym Mhrydain dros yr haf.
“Mae pobol wedi wfftio’r diwydiant twristiaeth glan môr yn rhy aml, ac mae’r adroddiad yma’n dangos ei fod o’n gryfach na’r disgwyl,” meddai Peter Hampson, o Gymdeithas Gwyliau Prydain.
Ond yn ôl perchnogion busnes o Gymru, y tywydd eleni fu’n gyfrifol am unrhyw hwb yn niferoedd y twristiaid a dyw pethau heb wella fel arall.
Benllech
Dywedodd Richard Hewitt, perchennog safle carafannau Golden Sunset ym Menllech wrth Golwg360 nad oedd unrhyw dyfiant sylweddol wedi bod eleni.
“Fyddwn i ddim yn dweud fod unrhyw newid. Ella ein bod ni wedi gwneud mymryn yn well – ond oherwydd y tywydd mae hynny,” meddai.
“Dw i ddim yn gwybod o ble mae prifysgolion yn cael rhai o’u syniadau.”
Pwllheli
Dywedodd Emyr Curd, o Gaffi Glan Môr Pwllheli wrth Golwg360 fod y sefyllfa “yr un fath ag erioed” ym Mhwllheli er bod “ychydig mwy o bobl wedi dod eleni”.
“Does yna ddim digon o bobl. Mae’n well na’r flwyddyn ddiwethaf ond y tywydd sy’n gyfrifol am hynny. Mae’r tywydd wedi bod yn sâl ers tair blynedd ond mae’r tywydd wedi gwella eleni.”
Dywedodd nad oedd y dirwasgiad ariannol wedi helpu sefyllfa twristiaeth o gwbl.
“Yr un bobl ydan ni’n ei weld a’r tywydd sy’n bwysig i ni.”
Sir Fôn
Stori debyg ym mharc carafanau Awelfryn, milltir o draeth Llanddwyn yn Sir Fôn: “Dyw pethau ddim rhy ddrwg ar hyn o bryd,” meddai Hillary Dawson.
“Mae’r penwythnos diwethaf wedi bod yn brysur iawn, ond doedd y penwythnos cynt ddim o gwbl.
Mae’r diwydiant yn touch and go, fedrwn ni ddim dibynnu ar y cyhoedd. “Ond, fe fydden ni’n gallu talu’r biliau eleni” meddai Hillary sydd wedi bod yn rhedeg y parc carafanau ers 2002.
Aberaeron
“Mae ychydig yn well eleni. Ond rydan ni wedi cael llawer o law yn ystod y blynyddoedd diwethaf,” meddai Craig Bruce, perchennog siop frechdanau a chaffi’r Fisherman’s Shed Beach Kiosk yn Aberaeron, sydd wedi bod yn rhedeg y busnes ers tair blynedd bellach.
“Y tywydd sy’n gyfrifol am hynny… Mae yna ymwelwyr yma, ond mae llawer o’r bobl leol yn cefnogi busnesau hefyd,” meddai.
Meddai ei fod, yn gyffredinol, yn “anodd gweld” faint o dwf sydd wedi bod, gan ei fod wedi cael “tywydd gwahanol” am dair blynedd.
Dywedodd fod penderfyniad y cyngor i godi arian ar bobol i adael eu ceir mewn maes parcio yn y dref wedi effeithio ar y busnes.