Mae glaw trwm wedi achosi tirlithriad sydd wedi claddu o leiaf 107 o bobol yn ne-orllewin China, a does dim gobaith o’u hachub nhw, yn ôl swyddogion lleol.

Mae’r gwaith achub yn rhanbarth Guizhou eisoes wedi dechrau a does dim cadarnhad eto ynglŷn â gwir faint y trychineb.

Mae rhannau mawr o dde China wedi dioddef llifogydd dros yr wythnos diwethaf, ac mae 239 eisoes wedi eu lladd a 109 arall ar goll.

Mae mwy na tair miliwn o bobol wedi gorfod ffoi o’u tai dros y pythefnos diwethaf, yn ôl llywodraeth y wlad.

Dydd Sul dechreuodd y llifogydd gilio wrth i weithwyr drwsio llifglawdd oedd wedi rhwygo gan orfodi i 100,000 o bobol ffoi eu cartrefi.

Mae rhai pobol wedi dychwelyd adref erbyn hyn gan ddod o hyd i’w tai wedi eu gorchuddio gyda baw a llaid ar ôl bod dan y dŵr.

Ond mae’r glaw llifeiriol wedi parhau yn y de orllewin, gan achosi tirlithriad a gladdodd pentref Dazhai.

“Cafodd y tirlithriad ei achosi gan law trwm dros y dyddiau diwethaf,” meddai’r swyddog lleol. “Does dim gobaith bod y bobol gafodd eu dal wedi goroesi.”