Mae Prif Weinidog Gwlad yr Iâ wedi priodi ei phartner dan gyfraith newydd sy’n caniatáu i bobol o’r un rhyw brodi yn y wlad.

Priododd Jóhanna Sigurðardóttir â’r awdur Jonina Leosdottir yn swyddogol dydd Sul, yr un diwrnod y daeth y gyfraith i rym, meddai llefarydd ar ran y Prif Weinidog.

Roedd y ddau wedi bod mewn partneriaeth sifil ers 2002, ac wedi gwneud cais i’w gael o wedi ei gofnodi fel priodas. Doedd yna ddim seremoni.

Cafodd y bleidlais o blaid priodasau hoyw ei gymeradwyo yn senedd Gwlad yr Iâ ar 11 Mehefin.

Mae Jóhanna Sigurðardóttir, 68 oed, o blaid y Democratiaid Cymdeithasol wedi bod yn Brif Weinidog ar y wlad ers y llynedd.

Cafodd llywodraeth flaenorol y wlad ei gwthio allan ar ôl protestiadau yn dilyn argyfwng economaidd y wlad.