Mae Jonathan Thomas wedi dweud bod Cymru yn edrych ymlaen at ddychwelyd i Hamilton y flwyddyn nesaf ar gyfer Cwpan y Byd yn dilyn yr ail brawf yn erbyn Seland Newydd dros y penwythnos.
Collodd tîm Warren Gatland 29-10, ond roedd perfformiad Cymru yn llawer mwy addawol o’i gymharu gyda’u prawf cyntaf yn Dunedin.
“Roedden ni’n llawer mwy cystadleuol mewn nifer o agweddau o’r gêm yn yr ail brawf- ond roedd mwy o angerdd yn ein chwarae,” meddai Jonathan Thomas.
“Ar ôl beirniadu’n ffitrwydd yr wythnos diwethaf, r’yn ni wedi dangos nad yw hynny’n broblem.
“Mae’n rhaid i ni barhau i ddysgu a gwella. R’yn ni wedi cael croeso gwych yn Hamilton ac r’yn ni’n edrych ‘mlaen at ddod yn ôl mewn 12 mis a bod yn fwy cystadleuol.”