Mae cyflwynydd o Gymru yn dweud fod rhywun wedi ymosod ar ei gar efo bricsen tra roedd yn teithio drwy Buenos Aires.
Roedd Steve Jones, 33, yn yr Ariannin yn ffilmio cystadleuaeth deledu newydd o’r enw ‘101 Ways to Leave a Gameshow’.
Mae wedi dweud ei fod ef a’i golurwr yn cael eu gyrru i’w gwaith drwy’r ddinas am tua chwech o’r gloch y bore, pan wnaeth dyn neidio o’u blaen gan orfodi i’r cerbyd stopio.
Roedd dyn arall wedi taflu bricsen tuag at y ffenest flaen.
Ond methodd y ffenest, a tholciodd y ffrâm yn lle, a gyrrodd y car i ffwrdd.
‘Brawychus’
“Duw a ŵyr beth fyddai wedi digwydd pe bai’r fricsen wedi dod drwy ffenestr flaen y car,” meddai Steve Jones. “Fe fyddai hynny wedi bod yn frawychus.
“Ond mae pethau fel hyn yn digwydd, dyw e ddim yn ddiwedd y byd”.