Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi galw ar bobol i ofalu nad ydyn nhw’n gwastraffu dŵr wrth i’r tywydd poeth barhau.
Mae disgwyl rywfaint o law yng Nghymru heddiw ond fel arall bydd y tywydd cynnes yn parhau ar draws y wlad.
Dywedodd Asiantaeth yr Amgylchedd fod “lefel yr afonydd yn gyffredinol dal yn isel” a’u bod yn “cadw golwg fanwl ar y sefyllfa”.
“Rydym yn cefnogi apêl y cwmnïau dwr i bobl fod yn ofalus a pheidio gwastraffu dŵr ac yn cydweithio’n agos efo nhw wrth fonitro’r cyflenwadau sydd yn y cronfeydd,” medden nhw.
“Wrth i bobl fod yn ddarbodus, bydd hynny hefyd yn helpu cael llai o effaith ar y pysgod a’r bywyd gwyllt yn ein hafonydd.”
Gweddïo am law
Mae dynes sy’n berchen ar fusnes pysgota yn Llanelwy wedi dweud fod lefelau afonydd yr ardal “ddengwaith yn waeth” nag yr oedd wedi’i ddisgwyl.
Dywedodd Renee Foxon, perchennog busnes Fox and Tackle Llanelwy, bod yr afonydd yn “ddifrifol o isel” gan ddweud “nad oes neb yn pysgota’r afonydd” lleol ar hyn o bryd.
“Dyw pysgota mewn afon pan mae’r lefelau’n isel ddim yn brofiad dymunol! Fel arfer rydan ni’n derbyn cwpwl o alwadau ffôn gan bobol sydd eisiau defnyddio’r afon bob diwrnod.”
Ond bellach tua “un alwad yr wythnos” maen nhw’n ei dderbyn o ganlyniad i’r dŵr isel.
“Roedden ni’n gobeithio am law yn y mis diwethaf. Ond dydyn ni heb gael dim,” meddai wrth Golwg 360. “R’yn ni angen glaw trwm dros yr wythnos nesaf… ond dydyn ni ddim yn debygol o’i gael o.
Mae’r sefyllfa’n arbennig o anodd i Renee Foxon oherwydd ei bod yn effeithio’i diddordeb a’i busnes.
Ond, nid yw’n ddrwg i gyd, gan ei bod yn “gwerthu mwy o offer pysgota môr,” ar hyn o bryd.