Mae dyn yn y ddalfa ar hyn o bryd ar ôl cael ei arestio bore ma yn dilyn honiad fod ganddo wn yn ei feddiant .
Toc wedi 10pm neithiwr fe gafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i dŷ ar Lwyn Morfa, Abergele ar ôl honiad fod gan y dyn ddryll.
Roedd swyddogion arfog yn bresennol ac ildiodd y dyn 46 oed ychydig ar ôl 5am bore ma. Fe gafodd ei arestio ac mae yn y ddalfa ar hyn o bryd.
“Diolch byth fod y mater wedi’i ddatrys a neb wedi eu hanafu,” meddai’r Uwch-arolygydd Frazer Jones o Heddlu Gogledd Cymru.