Mae Gweinidog Chwaraeon Ffrainc wedi dweud wrth chwaraewyr y tîm rhyngwladol nad ydyn nhw wedi gosod esiampl dda i bobol ifanc y wlad.

Bydd Ffrainc yn chwarae De Affrica pnawn ma gan wybod fan ganddyn nhw obaith bach iawn o gyrraedd yr 16 olaf ar ôl colli eu gêm ddiwethaf yn erbyn Mecsico.

Dychwelydd y garfan i ymarfer ddoe ar ôl gwrthod ymarfer dydd Sul. Mae yan son na fydd rhaid o’u chwaraewyr yn fodlon cymryd rhan yn y gêm heddiw.

Maen nhw’n anhapus gyda phenderfyniad Ffederasiwn Pêl Droed Ffrainc i anfon Nickolas Anelka adref ar ôl iddo ffraeo gyda’r hyfforddwr, Raymond Domenech.

Gorchmynnodd Arlywydd Ffrainc, Nicolas Sarkozy i’r Gweinidog Chwaraeon, Roselyne Bachelot gyfarfod gyda’r chwaraewyr a’u rhoi nhw yn eu lle.

“Rydw i wedi dweud wrth y chwaraewyr eu bod nhw wedi gwneud niwed i ddelwedd Ffrainc,” meddai Roselyne Bachelot.

“Mae’n drychineb i bêl droed Ffrainc. Dyw’r chwaraewyr ddim yn arwyr i blant y wlad. Maen nhw wedi difetha breuddwydion eu cydwladwyr, eu ffrindiau a’u cefnogwyr.”

Cadarnhaodd Roselyne Bachelot wedi cadarnhau bydd ymchwiliad swyddogol yn cael ei gynnal cyn gynted bydd Cwpan y Byd yn dod i ben.