“Rwy’n credu fod oes y bwrdd trafod yn raddol ddod i ben,” meddai Hedd Gwynfor sydd wedi bod yn rhedeg fforwm drafod Maes-e.com ar y we ers tua dwy flynedd.
Maes-e oedd y wefan Gymraeg fwyaf poblogaidd ar y rhyngrwyd ar un adeg ac yn denu miloedd o ymwelwyr pob diwrnod.
Ond dros y misoedd diwethaf ychydig iawn o gyfranwyr sy’n ymweld yn wythnosol, ac roedd yna gyfnodau hir pan nad oedd y wefan yn fyw o gwbl.
Dywedodd Hedd Gwynfor wrth Golwg360 eu bod wedi gorfod “newid gweinydd” ac felly fod y “safle wedi bod lan a lawr.”
“Ond, mae’r technegwyr wedi dweud y dyle’ popeth fod yn iawn nawr,” meddai.
“Yr hyn sy’n gyfrifol am dranc fforymau trafod yw ffenomenonau a datblygiadau eraill fel blogiau personol a gwefannau ryngweithio fel Facebook a Twitter,” meddai.
Fe gafodd gwefan Maes-e ei sefydlu gan Nic Dafis ar 18 Awst, 2002.
‘Cyfnod’
“Roedd Maes-e yn perthyn i gyfnod. Fel MSN i ddechrau,” meddai Rhys Llwyd, myfyriwr doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor a oedd yn defnyddio’r fforwm yn helaeth yn nyddiau cynnar y gwasanaeth.
Disgrifiodd sefydlu Maes-e fel y “datblygiad pwysicaf yn fy mlynyddoedd cyntaf ar y we” ac roedd o’n gyfrannwr selog rhwng 2002-2007.
“Dros y ddegawd ddiwethaf Maes-e, heb os, wnaeth y cyfraniad mwyaf i’r rhithfro – a dweud y gwir oni bai am Maes-e prin y byddai yna’r fath beth a’r rhithfro yn bodoli,” meddai.
“Roedd Maes-e yn gyfle i bobl drafod pethe dwys ond mae blogiau personol wedi cymryd drosodd i raddau nawr… does dim gymaint o drafodaethau dwys ar Facebook,” meddai.
Mae pobl yn fwy tebygol o “sôn am fynd allan ag yfed” ar wefan Facebook, meddai cyn dweud fod natur y drafodaeth ar wefan meicro flogio ‘Twitter’ o safon uwch, wrth i bobol gyfeirio at erthyglau a gofyn am farn arnyn nhw.”
Twitter
Yn ôl Rhys Llwyd, gwefan boblogaidd ‘Twitter’ yw Facebook “heb y lol” ac mae modd gweld trafodaethau ychydig mwy difrifol arno.
“Mae’n ddiddorol bod llawer o’r bobl a oedd ar Maes-e yn y dechrau ar Twitter nawr,” meddai.
“Ddim faint sy’n defnyddio Twitter ydi’r peth – ond pwy. Mae gwleidyddion, gohebwyr a tho diwylliannol ifanc yn ei ddefnyddio, yr un fath a Maes-e.
“Ar ei fwyaf, roedd gan Maes-e tua 2,000 aelod. Ond, pwy oedd y ddwy fil? Nhw oedd yn trefnu gigs, yn sgwennu dramâu – y dosbarth diwylliannol,” meddai.