Bydd Port Talbot yn wynebu Turun Palloseura o’r Ffindir yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Europa tra y bydd Llanelli yn herio FK Tauras o Lithuania.

Fe fydd ymgyrch Ewropeaidd gyntaf Port Talbot yn cychwyn yn Stadiwm Veritas yn Turku.

Dychwelodd Turun Palloseura i brif adran y Ffindir yn 2002, a dydyn nhw ddim wedi ennill y bencampwriaeth ers 1975.

Roedden nhw wedi cyrraedd rownd derfynol Cwpan y Ffindir yn 2005 ond fe gollon nhw yn erbyn Haka.

FK Tauras fydd y pedwerydd clwb o Lithuania i wynebu clwb o Gymru yng nghystadlaethau Ewrop pan fydden nhw’n wynebu Llanelli.

Fe orffennodd y clwb yn bumed ym mhrif gynghrair y wlad, A Lyga, a dydyn nhw erioed wedi ennill yr adran.

Maen nhw’n chwarae pêl droed yn ninas Taurage yn Stadiwm Vytautas sydd â lle i 1600 o gefnogwyr.

Yn y gorffennol y timau o Lithuania sydd wedi cael y gorau ohoni, gan ennill tri o’r pedwar rowndiau rhagbrofol yn erbyn clybiau Cymreig.