Bydd y Seintiau Newydd yn wynebu pencampwyr Iwerddon, Bohemian yn ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr.

Fe allai pencampwyr Cymru fod wedi wynebu un o chwe thîm dros ddau gymal, gan gynnwys, Rosenborg o Norwy, Salzburg o Awstria, AIK Solna o Sweden, BATE Borisov o Felarws neu’r clwb o Lithuania, FK Ekranas.

Ond dim ond i’r Iwerddon fydd angen i’r Seintiau Newydd deithio yn hytrach na thaith hir ar draws Ewrop.

“Mae’n ddelfrydol o ran trefnu teithio ac r’yn ni hefyd yn teimlo bod gennym ni gyfle da i fynd ‘mlaen i’r rownd nesaf,” meddai Prif Weithredwr y Seintiau Newydd, Ian Williams ar wefan Welsh Premier.

Ond mae Bohemian wedi bod yn llwyddiannus yn erbyn clybiau Cymru yn y gorffennol, gan guro’r Rhyl 9-3 dros ddau gymal yng nghystadleuaeth Cwpan InterToto ddwy flynedd ‘nôl.

Fe enillodd y Gwyddelod y gynghrair yn 2009 am y tro cyntaf mewn chwe blynedd, ac maen nhw wedi ennill mwy o gemau Ewropeaidd nag unrhyw glwb arall o Iwerddon.

Bydd y Seintiau Newydd yn paratoi i wynebu Bohemian gyda gêm gyfeillgar yn erbyn Linfield yn fuan.