Mae Aelod Cynulliad Arfon, Alun Ffred Jones wedi galw ar y derbynwyr sy’n delio gyda Barcud Derwen, Grant Thornton, i gynnal cyfarfod yn ardal Caernarfon ar gyfer credydwyr y cwmni.
Caeodd cwmni Barcud yng Nghaernarfon dydd Mawrth diwethaf gan golli 35 o swyddi.
Mae Golwg360 yn deall bod llawer o weithwyr llawrydd yn aros am gael eu talu am waith i’r grŵp.
Mae AS Arfon, Hywel Williams, eisoes wedi galw ar Barcud i dalu gweithwyr a gweithwyr llawrydd am unrhyw waith y maen nhw wedi’i wneud.
“Rwyf o’r farn ei bod hi’n ddyletswydd ar Grant Thornton, y derbynwyr swyddogol, i drefnu cyfarfod yng ngogledd Cymru ar gyfer y rhai sy’n aros i’w hanfonebau gael eu talu,” meddai Alun Ffred Jones.
“Mae’n iawn i bawb gael gwybod beth yn union yw’r sefyllfa. Dyw cynnal un cyfarfod yng Nghaerdydd ddim ddigon da.”