Mae llanciau yn fwy tebygol o geisio safio arian na phobol yn eu 50au, yn ôl arolwg newydd.

Mae chwarter y rhai sydd rhwng 18 a 19 oed yn ceisio cynilo £3,000 y flwyddyn, o’i gymharu gyda thua 15% o bobol yn eu 50au, yn ôl Lloyds TSB.

Mae pobol yn eu 20au hefyd yn debygol o geisio cynilo arian, gyda 18% yn ceisio safio £3,000 y flwyddyn.

Roedd 64% o bobol yn eu 20au yn ceisio gosod rhywfaint o arian o’r neilltu cyn eu bod nhw’n 18 oed, o’i gymharu gyda llai nag 50% o bobol yn eu 40au a 50au.

Roedd yr arolwg hefyd yn dweud bod 70% o bobol yn eu 20au wedi dysgu sut i gynilo arian gan eu rheini, o’i gymharu gyda 61% o bobol yn eu 50au.

Mae hynny’n awgrymu bod rhieni heddiw yn fwy agored ynglŷn â’u harian gyda’r plant.

“Y rhwystr mwyaf i gynilo arian yw dechrau yn y lle cyntaf, felly mae o’n galonogol iawn gweld pobol ifanc heddiw yn cymryd eu camau cyntaf tuag at ddiogelu eu dyfodol,” meddai Greg Coughlan o Lloyds TSB.