Mae tîm dan 20 Cymru wedi gwneud wyth newid i’r tîm fydd yn chwarae yn erbyn Fiji wrth iddynt geisio gorffen Pencampwriaeth Ieuenctid y Byd yn y seithfed safle.
Mae Cymru eisoes wedi curo Fiji 31-3 yng ngemau grŵp y gystadleuaeth yn yr Ariannin.
Mae hyfforddwr Cymru, Phil Davies wedi amrywio’i dîm yn aml gyda phob chwaraewr yn cael cyfle i ennill profiad ar y lefel rhyngwladol.
Dim ond cefnwr Crwydriaid Morgannwg, Dan Fish ac asgellwr y Gweilch a Chastell-nedd, Kristian Phillips sydd wedi dechrau pob gêm i Gymru.
Mae Ben John, Ashley Beck, James Loxton a Matthew Jarvis yn dychwelyd i’r tîm tu cefn i’r sgrym, tra bod Rhys Williams, Rhodri Jones, Lloyd Peers a James Thomas yn cael eu dewis ymysg y blaenwyr.
Dyw James King a Rhys Jenkins ddim wedi cael eu hystyried ar gyfer y garfan oherwydd anafiadau.
“Mae’r chwaraewyr yn awyddus i orffen y gystadleuaeth ar nodyn uchel ac mae hynny’n golygu buddugoliaeth yn erbyn Fiji,” meddai Davies.
“Gan ein bod ni wedi chwarae a maeddu Fiji yn barod, fe fyddwn ni’n ymwybodol o wendidau a chryfderau’n gilydd. Ond rydan ni’n ffyddiog ein bod ni’n mynd i sicrhau’r canlyniad,” ychwanegodd hyfforddwr Cymru.
Carfan Cymru
Dan Fish; Kristian Phillips, Ben John, Ashley Beck, James Loxton; Matthew Jarvis, Rhys Downes; Dan Watchurst, Rhys Williams, Rhodri Jones, Lloyd Peers (vice-capt), Joel Galley, Edward Siggery, Josh Navidi, James Thomas.
Eilyddion- Ieuan Davies, Joe Rees, Will Taylor, Morgan Allen, Gareth Davies, Steven Shingler, Scott Williams