Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu Llywodraeth y Cynulliad am wario £195,000 dros gyfnod o bum mlynedd ar gynnal a chadw planhigion mewn swyddfeydd.

Ac mae’r gwariant wedi cynyddu’n raddol o £24,000 y flwyddyn rhwng 2005/06, i £43,000 rhwng 2009/10 – roedd uchafbwynt o £48,000 rhwng 2008/09.

Mae’r ffigurau’n dangos gwariant ar draws gwahanol adrannau’r llywodraeth. Mae’r cynnydd blynyddol mawr ar ôl 2005 oherwydd bod y Llywodraeth wedi cymryd cyfrifoldeb dros sefydliadau eraill, fel Asiantaeth Datblygu Cymru.

‘Annerbyniol’

Roedd llefarydd Llywodraeth Leol y Torïaid, Darren Millar AC, wedi gwneud cais am yr wybodaeth gan y Gweinidog Busnes a Chyllid, Jane Hutt.

Mae’n “annerbyniol”, meddai Darren Millar, fod cymaint o arian yn cael ei wario pan mae pobol yng Nghymru yn “cael trafferth talu’u biliau,” a “gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu toriadau mawr.”

“Mae angen i Weinidogion Llafur a Phlaid gael gafael ar y math yma o wariant a sicrhau bod gwasanaethau rheng flaen yn cael eu gwarchod,” meddai.

“Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru fod yn meithrin gwell gwasanaethau cyhoeddus, nid planhigion.”

Ddim yn prynu

“Mae’r costau yma yn ffurfio rhan o’r cytundebau rhentu a chynnal a chadw sydd ar draws eiddo Llywodraeth y Cynulliad”, meddai llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad.

“Tra bod planhigion wedi cael eu defnyddio i wella amgylchfyd cyhoeddus a gwaith mewn adeiladau sydd â lefelau isel iawn o olau naturiol, mae’r costau yma yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd yn sgil y sefyllfa ariannol ac economaidd bresennol.”