Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi lansio arolwg ar-lein i gael gwybod beth yw barn dynion am ferched sy’n bwydo o’r fron.
Lansiwyd yr arolwg er mwyn nodi dechrau Wythnos Bwydo o’r Fron, heddiw.
Mae Llywodraeth y Cynulliad eisiau safbwyntiau tadau, darpar dadau a dynion eraill sydd â barn – boed y farn honno yn gadarnhaol neu’n negyddol – am ferched sy’n bwydo o’r fron.
Yn ôl rhai merched, un o’r rhesymau pam nad ydyn nhw’n bwydo o’r fron – yn arbennig mewn mannau cyhoeddus, yw bod gweld hyn yn gwneud i’w partneriaid a dynion yn gyffredinol deimlo’n anghyfforddus.
Fe fydd casgliadau’r arolwg yn cael eu defnyddio i lywio ymgyrchoedd hyrwyddo bwydo o’r fron yn y dyfodol ac i herio canfyddiadau negyddol.
Bwydo o’r fron a dynion
“Mae bwydo o’r fron yn rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i fabanod, ac mae Wythnos Bwydo o’r Fron yn gyfle i dynnu sylw at nifer o’r manteision,” meddai Jane Wilkinson, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru.
“Ledled y wlad, mae grwpiau bwydo o’r fron lleol ar gael lle y gall menywod beichiog a mamau newydd gyfarfod a chefnogi ei gilydd.
” Mae gan ddynion hefyd ran hanfodol i’w chwarae yn cefnogi eu partneriaid i fwydo o’r fron. Dyna pam y mae mor bwysig inni gael safbwyntiau dynion i helpu inni ddatblygu rhaglen yn ddiweddarach eleni i godi eu hymwybyddiaeth o fwydo ar y fron.”
Gweithgareddau
Yn ystod yr wythnos, mae amrywiol weithgareddau’n cael eu trefnu ledled Cymru i godi ymwybyddiaeth o fanteision iechyd bwydo ar y fron i fabanod.
Mae’r manteision hynny yn cynnwys amddiffyniad rhag gastro-enteritis, amddiffyniad rhag heintiau’r ysgyfaint a’r glust, clefyd siwgr, alergedd a mathau eraill o salwch.
Mae gan famau sy’n bwydo ar y fron fwy o amddiffyniad yn erbyn rhai mathau o ganser, ac rhag esgyrn bregus yn ddiweddarach yn eu bywydau.